Manyleb ar gyfer swydd Cynghorwr Arbenigol i’r Pwyllgor Cyllid

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid am benodi Cynghorwyr Arbenigol ar gyfer ymchwiliadau yn y dyfodol a allai gynnwys cyllidebau, llunio rhagolygon a threthi yn ystod gweddill y pumed Cynulliad.

 

Byddai’r ymchwiliad cyntaf yn cynnwys rhoi cyngor arbenigol a thechnegol i’r Pwyllgor mewn perthynas â chraffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

 

Mae rôl y Cynghorwr Arbenigol yn cynnwys:

·         cynorthwyo â’r gwaith o gwmpasu a diffinio cylchoedd gwaith ar gyfer ymchwiliadau;

·         llunio papurau briffio cefndirol ar gyfer y pwyllgor ym maes arbenigedd y cynghorwr;

·         helpu i ddethol tystion priodol a meysydd posibl i holi yn eu cylch yn ystod sesiynau tystiolaeth lafar;

·         cyfrannu at y gwaith o lunio adroddiad awdurdodol sy’n cynnwys casgliadau ac argymhellion clir a manwl i sicrhau bod gwaith y Pwyllgor yn ddylanwadol ac yn arwain at ganlyniad cadarnhaol. Gall mewnbwn cynghorwr yn ystod y cam hwn helpu i sicrhau bod cynnwys yr adroddiad yn gadarn yn dechnegol ac yn gallu gwrthsefyll gwaith craffu manwl gan arbenigwyr allanol, gan gynnwys Gweinidogion a swyddogion y Llywodraeth;

 

Manyleb y Person

Sgiliau/Galluoedd – Rhaid i’r cynghorwr fod â sgiliau dadansoddi amlwg a sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac mae’r gallu i egluro materion technegol neu gymhleth yn hanfodol.

 

Profiad – Bydd gan y cynghorwr brofiad o gyllid yn y sector cyhoeddus/preifat ac o weithio gydag uwch weithredwyr, gwleidyddion a/neu bwyllgorau.

 

Dealltwriaeth – Dylai’r cynghorwr fod â dealltwriaeth dda o waith, pwerau a gweithdrefnau’r Cynulliad, gan ddangos dealltwriaeth dda o rôl a chylch gwaith y Pwyllgor Cyllid.

 

Arbenigedd – Gwybodaeth am faterion yn ymwneud â chyllidebu, llunio rhagolygon, cyllid cyhoeddus, polisi treth neu system dreth y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’r trethi a ddatganolwyd i Gymru.

 

Gwahoddir ymgeiswyr i gynnwys llythyr eglurhaol sy’n nodi sut y maent yn bodloni’r meini prawf ym Manyleb y Person a chopi o’u CV, i gyrraedd Clerc y Pwyllgor erbyn 9 Medi 2019. Gofynnwn ichi anfon eich cais drwy e-bost at: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Bethan Davies (0300 200 6372) neu Leanne Hatcher (0300 200 6343), sef clercod y Pwyllgor Cyllid.

Caiff cyflog y penodiad ei dalu ar gyfradd Cynghorwr Arbenigol y Cynulliad, sef £200 y diwrnod am 15 o ddiwrnodau, neu gyfanswm o £3,000.

 

 

 

 

 

Y swydd bresennol ar gyfer Cynghorwr Arbenigol mewn perthynas â chraffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, ag arbenigedd penodol ym maes trethi

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid am benodi Cynghorwr Arbenigol i gynorthwyo â’r gwaith o  graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Yn benodol, bydd y Cynghorwr yn helpu i wella gwaith craffu’r Pwyllgor o ran treth, llunio rhagolygon a chyllidebu strategol.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer adrannau penodol neu bortffolios gweinidogol eu hystyried yn fanwl.

 

Ym mis Ebrill 2018, daeth trethi newydd Cymru, sef y dreth gwarediadau tirlenwi a’r dreth trafodiadau tir, i rym, ac yn ystod y flwyddyn ariannol hon mae treth incwm wedi’i datganoli’n rhannol, gyda threthdalwyr Cymru yn gweld codau treth newydd Cymru ar eu slipiau cyflog am y tro cyntaf. Mae gan y datblygiadau newydd hyn oblygiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru ac i’r gwaith craffu ar y gyllideb gan y Pwyllgor Cyllid.

 

Amserlen

Fel arfer, cyhoeddir cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ym mis Hydref. Fodd bynnag, o gofio bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal adolygiad cynhwysfawr o wariant eleni, a fydd yn dod i ben ochr yn ochr â chyllideb y DU, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu cyhoeddi’r cyllidebau drafft amlinellol a manwl gyda’i gilydd ar 10 Rhagfyr 2019, a’r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2020. Fodd bynnag, yn sgil penodi Prif Weinidog newydd y DU, os caiff cyllideb frys ei chyhoeddi’n gynharach sy’n cadarnhau’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, gallai’r dyddiadau hyn gael eu diwygio. Felly, mae’r Pwyllgor Cyllid yn debygol o ddechrau ei ymchwiliad tua mis Tachwedd/mis Rhagfyr 2019. Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cyhoeddi ei ymgynghoriad ar y gyllideb ddrafft ac mae’r manylion ar gael yma.